

DATGANIAD I’R WASG
24 Chwefror 2020
Dechrau chwilio am Ysgol Arloesedd y Flwyddyn 2020
mewn Bwyd, Ffermio a’r Amgylchedd
Mae’r elusen addysg ffermio flaenllaw, LEAF Education a Choleg Cambria Llysfasi wedi cyhoeddi dechrau eu cystadleuaeth i goroni ysgol arloesedd y flwyddyn eleni mewn Bwyd, Ffermio a’r Amgylchedd.
Nod y gystadleuaeth, gyda chefnogaeth Waitrose & Partners, yw ymgysylltu pobl ifanc â ffermio, cynhyrchu bwyd a’r amgylchedd naturiol. Mae ysgolion uwchradd ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu hannog i gystadlu i ennill profiad arbennig am benwythnos ar fferm weithredol yng Ngholeg Cambria Llysfasi, yn Nyffryn Clwyd, Gogledd Cymru. Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn ymgolli mewn gweithgareddau ymarferol fel godro gwartheg, trin defaid, defnyddio technoleg drôn, gweld amaethgoedwigaeth ar waith a gyrru tractor. Byddant hefyd yn cystadlu mewn dadl ar thema’r gystadleuaeth ‘A fydd ffermwyr yn parhau i fod yn warcheidwaid ein tir a’n hamgylchedd?’
Bydd yr ysgol fuddugol yn cael ei choroni yn Ysgol Arloesedd y Flwyddyn mewn Bwyd, Ffermio a’r Amgylchedd am eleni.
Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae’r gystadleuaeth wedi cael effaith sylweddol yn denu ac ysbrydoli pobl ifanc am ffermio a chynhyrchu bwyd ac amlygu’r nifer o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y sector. Yn y ddwy flynedd gyntaf, aeth 10 o’r 31 o fyfyrwyr a gymerodd ran ymlaen i wneud cais i astudio mewn colegau’r tir, gyda’r holl fyfyrwyr yn dweud ei fod wedi cael ‘effaith gadarnhaol ar eu dealltwriaeth o’r diwydiant ffermio’.
Eglurodd Cyfarwyddwr Addysg LEAF Education, Carl Edwards:
“Ni fu erioed amser mwy hanfodol i ddefnyddio cryfder teimladau ein pobl ifanc am ddyfodol eu planed. Mae’r gystadleuaeth hon yn mynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw – cynaliadwyedd, diogelwch amgylcheddol, iechyd a maethiad a newid hinsawdd. Wrth ddarparu profiad uniongyrchol o ffermio i bobl ifanc, cynhyrchu bwyd a chyfleoedd am lefel ddyfnach o ddadansoddiad beirniadol am fater ffermio presennol, ein nod yw codi eu hymwybyddiaeth o bwysigrwydd ffermio yn eu bywyd o ddydd i ddydd a’i rôl wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd ac argyfwng ecosystem.”
Yn newydd ar gyfer 2020, cynhelir cystadlaethau rhanbarthol hefyd gan Gymdeithas Amaethyddol a Garddwriaethol Frenhinol Jersey a Llaethdy Embleton Hall, Swydd Durham a fydd yn bwydo i’r gystadleuaeth Genedlaethol. Mae ysgolion yn Jersey a Gogledd Ddwyrain Lloegr yn cael eu hannog i gystadlu yn eu cystadleuaeth ranbarthol i ennill lle pendant yn y gystadleuaeth genedlaethol. Bydd yr elfen ranbarthol yn ehangu’r proffil a chyrraedd y gystadleuaeth genedlaethol yn ogystal â chynorthwyo i ysgogi cymorth ehangach yn y diwydiant.
Ychwanegodd Iain Clarke, Pennaeth Llysfasi:
“Mae pwysigrwydd ffermio cynaliadwy yn bwysicach nag erioed o ran gostwng newid hinsawdd. Mae pobl ifanc yn teimlo’n gryf am ddyfodol eu planed ac mae ffermio o dan chwyddwydr mawr; mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o ffermio yn ogystal ag ystyried sut mae hefyd yn rhan o ddatrys yr argyfwng hinsawdd.”
Yn siarad ar ran Waitrose & Partners sy’n cefnogi’r gystadleuaeth eleni, daeth Caroline Silke, Rheolwr Effaith Gymdeithasol i’r casgliad:
“Pobl ifanc yw defnyddwyr a phenderfynwyr y dyfodol. Maen nhw’n angerddol am ddyfodol eu planed ac mae ffermio yn allweddol i ysgogi newid cadarnhaol. Gall cryfhau cysylltiadau â ffermio helpu i hyrwyddo ffyrdd mwy iachus o fyw, ysgogi’r galw am fwyd a gynhyrchir yn gynaliadwy a meithrin diddordeb yn y byd naturiol. Rydyn ni’n falch iawn o gynorthwyo’r fenter bwysig hon.”
Mae’r gystadleuaeth Bwyd, Ffermio ac Amgylchedd 2020 i fyfyrwyr 14–16 oed. Dylai ysgolion uwchradd sy’n dymuno cystadlu gyflwyno cais drwy ddilyn y ddolen hon:
www.leafuk.org/education/the-national-food-farming-and-environment-competition
Gofynnir i athrawon ateb cwestiynau ar sut gall ennill lle yn y gystadleuaeth penwythnos o hyd hon gael effaith gadarnhaol ar eu myfyrwyr a’u hysgolion ac i’w myfyrwyr roi ymateb fideo i deitl y gystadleuaeth eleni ‘A fydd ffermwyr yn parhau i fod yn warcheidwaid ein tir a’n hamgylchedd?’
Y dyddiad cau yw 16 Mawrth 2020. Cyhoeddir yr ysgolion buddugol yn yr wythnos sy’n dechrau 23 Mawrth. Bydd y wobr am benwythnos yn cael ei chynnal ddydd Gwener 26 Mehefin – dydd Sul 28 Mehefin 2020.